LLYFR NEWYDD gan Denley Owen
LLYFR NEWYDD gan Denley Owen
AR DROED YN NYFED
Bywyd ac Amserau
GRIFFITH HAVARD
Ysgolhaig, Pregethwr, Fferyllydd a
Chynhyrfwr Radicalaidd
Yng Nghymru yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg gwelwyd cynnwrf gwleidyddol o blaid gwella amodau byw y bobol gyffredin. Yn Sir Gaerfyrddin llwyddodd radicaliaid - Powell, Maesgwyn a'i olynydd John Lloyd Morgan – i ennill etholiadau seneddol ac yn ardaloedd Hen-Dy-Gwyn, Llanfallteg a Blaenwaun gwrthryfelodd ffermwyr yn erbyn annhegwch treth y degwm.
Gweinidogion anghydffurfiol, yn benaf, oedd ar flaen y gâd ac un o'r mwyaf brwd dros iawnderau'r werin oedd cyn-weinidog gyda'r Bedyddwyr oedd yn druggist yn yr Hen-Dy-Gwyn o'r enw Griffith Havard. Ymysg yr eglwysi y bu'n eu bugeilio roedd Ramoth, Cwmfelin Mynach; Hebron, Saundersfoot; Soar, Llanteg; Smyrna, Casmael a Beulah, Casnewydd Bach.
Ar garreg fedd Havard mae'r geiriau:
'Efe oedd canwyll yn llosgi ac yn goleuo.'
Pwy oedd Griffith Havard? A beth yn union oedd ar droed yn y parthau hyn yr adeg hynny?
Ymgais i ateb y cwestiynau hyn yw cynnwys y llyfr hwn lle disgrifir brwydrau'r bobl gyffredin am gyfiawnder a datguddir 'un o ddynion mwyaf deallus Cymru' oedd yn berson amryddawn, gwylaidd, dewr a didwyll.
….........................................................
Bydd nifer cyfyngedig o'r llyfr ar werth yn Cloth Hall, Llanboidy a mannau eraill ym mis Medi 2017.
Pris £5.
Bydd elw o'r gwerthiant yn mynd i'r papur Bro,
Y Cardi Bach.